Daeth Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, Tŷ Newydd, i fodolaeth yn swyddogol yn 1990 gyda chwrs yng nghwmni Gillian Clarke a Robert Minhinnick. Bellach, sawl blwyddyn a sawl gwobr yn ddiweddarach (yn fwyaf diweddar camp Robert yn cipio prif wobr Llyfr y Flwyddyn ym mis Mehefin eleni), mae’n bleser gennym eu gwahodd yn ôl i gyd-diwtora Dosbarth Meistr Barddoniaeth rhwng nos Lun 25 Hydref a bore Sadwrn 3 Tachwedd 2018. Bydd Darllenydd Gwadd arbennig hefyd yn ymuno ynghanol yr wythnos, y bardd Kim Moore.
Mae un lle ar bymtheg wedi eu cadw i sicrhau y bydd nifer dda o feirdd yn cael budd o’r cwrs. I sicrhau proses gystadleuol, rydym yn gwahodd unigolion i wneud cais i fod yn rhan o’r cwrs gan gynnig 6 cherdd, ynghyd ag unrhyw wybodaeth am lwyddiant cyhoeddi blaenorol os yn berthnasol. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â’r broses i’w gael yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r diwrnod olaf o Awst 2018.
Bydd y cwrs yn Nhŷ Newydd yn gymysgfa o weithdai barddoniaeth, trafodaethau grŵp, a thasgau ymarferol i hogi sgiliau barddol. Bydd y cwbl yn dod i ben mewn dathliad ar y nos Wener olaf o farddoniaeth a gyfansoddwyd yn ystod yr wythnos. Caiff y cerddi, yn ogystal â cherddi gan y tiwtoriaid, eu cynnwys mewn blodeugerdd ar gyfer Llyfrgell Tŷ Newydd.
Rhwng y gweithdai, bydd cyfle i fwynhau Tŷ Newydd – hen dŷ braf yng nghefn gwlad Cymru rhwngmôr a’r mynydd. Cewch gyfle i fwynhau teithiau cerdded o amgylch yr ardal, a bydd prydau bwyd blasus yn cael eu paratoi i chi bob dydd gan ein cogydd preswyl.
Mae Gillian Clarke yn un o feirdd enwocaf Cymru, yn gyn Fardd Cenedlaethol ac yn awdur ar sawl cyfrol o farddoniaeth, a llyfrau i oedolion, a nifer hefyd i blant, fel awdur, cyfieithydd neu olygydd. Yn 2010, dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth, a derbyniodd Wobr Wilfred Owen yn 2012. Cyrhaeddodd ei chasgliad diweddaraf, Ice (Carcanet), restr fer Gwobr TS Eliot 2012, a’i chyfrol ddiweddaraf yw Zoology (Carcanet) a ysbrydolwyd yn dilyn gwaith fel Bardd Preswyl ym Mhrifysgol Swoleg Caergrawnt.
Mewn Seremoni ar 26 Mehefin eleni, cyhoeddwyd mai Robert Minhinnick oedd enillydd prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2018 gyda’i gyfrol Diary of the Last Man (Carcanet), wedi iddo ddod i’r brig yn y categori barddoniaeth Saesneg. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr TS Eliot eleni hefyd gyda’r un gyfrol. Bu Robert yn olygydd y cylchgrawn chwarterol rhyngwladol Poetry Wales rhwng 1997 i 2008. Mae’n fardd ac yn nofelydd toreithiog.
Cyhoeddwyd casgliad llawn Kim Moore, The Art of Falling, gan Seren yn 2015 ac enillodd y Geoffrey Faber Memorial Prize. Enillodd y New Writing North Award yn 2014, yr Eric Gregory Award yn 2011 a’r Geoffrey Dearmer Prize yn 2012.
Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd, y Dosbarth Meistr neu’r broses ymgeisio, cliciwch yma neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811
Dyddiad cau: 31 Awst 2018