Y Mesurau Caeth a’r Mesurau Rhydd
Maw 1 Mai 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn ar 21 Ebrill 2018, daeth criw o 9 ynghyd i Dŷ Newydd i fwynhau cwrs undydd yng ngofal Myrddin ap Dafydd. Bu’r criw yn brysur yn trafod ac yn cyfansoddi yn yr ardd. Y mesurau barddol oedd yn cael y sylw y tro hwn, a cychwynnodd Myrddin y cwrs drwy ddarllen ambell gerdd o gasgliad Hen Benillion a gasglwyd ynghyd gan T.H.Parry Williams. Esboniodd Myrddin sut y mae mesur penodol, boed yn fesur rhydd neu gaeth, yn gallu llywio trywydd cynnwys cerdd – boed yn gerdd ddwys neu ddigri – yn un sy’n dychanu neu’n canmol.

Diolch i Enfys Huws, un o’r beirdd ar y cwrs, am yrru rhai o’r cerddi a ysgrifennwyd ganddi yn ystod – ac ar ôl y cwrs.

Cefais fy ngeni a fy magu ar lannau’r Mersi mewn teulu o dras Cymreig. Ar ôl cychwyn mewn coleg ger Llundain ddes i’r Coleg Normal, dysgu’n lleol, priodi Cymro a magu’r plant yn Gymry Cymraeg.
Ddes i Dŷ Newydd yn gyntaf tua 1988 cyn i Lên Cymru cymryd y lle trosodd. Anita Griffith oedd yn arwain cwrs ysgrifennu Saesneg ond trwy gyfrwng y Gymraeg. Cefais fy annog i geisio ysgrifennu yn Gymraeg. Es ati’n syth ond dydy hi ddim wedi bod yn hawdd i mi. Rwyf wedi cael cymorth sawl un ac mae fy niolch yn fawr am hynny. Er i mi gael rhywfaint o lwyddiant mewn eisteddfodau lleol, rwy’n dal i ddioddef o ddiffyg hyder a dyna pam mae cyrsiau yn Nhŷ Newydd wedi codi fy nghalon bob tro ac wedi bod yn ysbrydolaeth i mi ddal ati. – Enfys Hughes

Tasg cyntaf: cwpledi sy’n odli yn sôn am y daith i Dŷ Newydd.

Eistedd wrth y bwrdd yn sgwrsio
gweld y cloc, wel dyna ruthro
dillad, sgidia, beiro, colur,
sticio’n llygaid, dyna ddolur.
Dyma’r siwrne i Dŷ Newydd –
Tŷ eithriadol yn Eifionydd.

 

Tasg: Broliant i le arbennig; 7 sill i’r llinell; pob llinell yn odli; pob llinell yn cychwyn efo enw’r lle.
Mae ein tŷ ni wedi cael ei enwi ar ôl sant y plwy.
Llaneugrad
Eugrad, sant a ddaeth i’r fan
yma ymsefydlodd lan
aeth ei blant i bedwar ban.

Eugrad agos at fy nghalon
blodau melyn, coch, ac aeron
natur ar dy ben fel coron.

Eugrad, cartref teulu ni
lle am chwarae, sbort a sbri,
man cynhesrwydd ydwyt ti.

Eugrad, rwyt ti yno’n wastad
yn rhoddi’n hael o’th wên a’th gariad
cartref heddwch yw Llaneugrad.

 

Gwaith cartref: Cerdd yn Gymraeg neu Saesneg sy’n dangos teimladau’r Cymry ynglŷn ac ail enwi Pont Hafren

The Prince of Wales Bridge
The Humber Bridge crosses the Humber
a river as fine as can be
majestic and proud in its glory
the Humber flows out to the sea.

Pont Menai crosses the Menai
staying steadfastly true to its track
majestic and proud in its glory
but the water will never come back.

The Prince of Wales Bridge crosses the……..Charlie?
we’ll watch as he passes below
majestic and proud in his glory
and we’ll wave as he goes with the flow.