Mae Anita Myfanwy yn aelod o Glwb Ysgrifennu Tŷ Newydd, sy’n cyfarfod yn fisol. Dyma ychydig o hanes y clwb, yn ei geiriau hi…
Fis nesa bydd Clwb Ysgrifennu Tŷ Newydd yn dathlu ei ben blwydd yn un mlwydd oed. A dyna i chi flwyddyn ddifyr. Bob mis mae pedair ohonom yn dod ynghyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i wrando ar waith ysgrifennu ein gilydd boed yn stori fer, yn ddechrau nofel, cerdd, sgript, ysgrif neu unrhyw waith creadigol ysgrifenedig arall.
Wrth gwrs, y peth cyntaf rydym yn ei wneud cyn dechrau’r cyfarfod ydy gwneud tebotiad iawn o de a digon o fisgedi i’n cadw i fynd am y ddwy awr nesaf. Mae rhywbeth am ‘y rhen baned’ sydd yn gwneud i eiriau lifo dros yr enaid a’r galon.
Weithiau byddem wedi gosod thema yn y cyfarfod blaenorol. Dro arall mae’r testun yn agored. Ar y dechrau, mae’n rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo bod fy ngwaith yn ddi-nod ym mhresenoldeb yr aelodau eraill sydd eisoes wedi gwneud enwau iddyn nhw eu hunain yn y byd llenyddol. Fi ydy’r un sydd â’r lleiaf o brofiad ysgrifennu gan fod y tair ysgrifen wraig arall wedi cyhoeddi gwaith eisoes. Ond buan iawn deuthum yn hyderus wrth ddarllen fy ngwaith gan fod y grŵp yn fy annog mewn modd cadarnhaol iawn. Dydyn nhw ddim yn fy ystyried yn wahanol iddyn nhw. Mae’r awyrgylch sydd yn yr ystafell yn peri i mi ymlacio a bod yn fi fy nhun. Mae’n ofod diogel ac yn ddihangfa i fyd lle rydw i’n cael gwneud yr hyn sydd wedi bod yn fy nghalon erioed yng nghanol sŵn chwerthin, clodfori, difyrrwch a digrifwch a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rwyf wedi dysgu llawer wrth fynd i’r cyfarfodydd. Yn gyntaf, rwyf yn dysgu sut i fod yn ddisgybledig wrth ysgrifennu. Rwyf wedi bod yn ysgrifennu pytiau bach ar gefn papur ers fy mod yn blentyn. Roedd fy Mam yn f’annog i ysgrifennu llyfr cyn i mi fynd i’r ysgol uwchradd. Anogodd rai o fawrion ein byd llenyddol i mi ysgrifennu drama neu nofel pan oeddwn yn fyfyrwraig a phan oeddwn yn mynd ar gyrsiau ond rhwng y peth yma a’r peth arall, ni roddais fy mhen i lawr i wneud unrhyw beth gorffenedig a doedd gen i ddim mo’r hyder na’r amser wrth fynd drwy gorwynt bywyd. Ond, erbyn hyn, rwyf yn ysgrifennu darn sydd wedi ei orffen, neu o leiaf, sydd yn ei ddrafft cyntaf erbyn y cyfarfod. O ganlyniad, rwyf wedi dechrau creu rhyw fath o bortffolio o’m gwaith creadigol. Mae hyn yn rhoi boddhad mawr i mi gan fy mod yn gallu dweud fy mod ar y llwybr iawn at gyhoeddi fy ngwaith ryw ddiwrnod gobeithio. Rwyf hyd yn oed wedi prynu gliniadur newydd ar gyfer ysgrifennu darnau i’r Clwb.
Yr ail beth rwyf wedi ei ddysgu ydy bod awduron eraill yn hoffi cael mewnbwn i’w gwaith hefyd. Maent yn barod i wrando ar adwaith eraill tuag at eu creadigaethau ysgrifenedig, ac mae barn pawb yr un mor bwysig. Mae’n braf dysgu oddi wrthynt gan fod eu gwaith mor goeth. Cawn gyfle hefyd i drafod yr hyn sydd tu ôl i’n darnau ysgrifenedig, a’r hyn â’n symbylodd i ysgrifennu. Yn wir, mae’r sgyrsiau a’r trafodaethau’n llenwi fy synhwyrau i’r eithaf.
Yn drydydd, rwyf wedi magu yr hyder i ddangos fy ngwaith i eraill. Erbyn hyn rwyf yn anfon copïau o’m gwaith ysgrifenedig i’m teulu a’m ffrindiau. Rwyf hyd yn oed wedi darllen darnau i’m teulu, ac hynny yn hyderus iawn. Fuaswn i byth wedi meiddio gneud hynny flwyddyn yn ôl. Mae’n bosib yr anfonaf fy ngwaith at bapurau bro neu i eisteddfodau yn y dyfodol. Pwy â ŵyr, efallai y gwnaf gynhyrchu campwaith llenyddol un o’r diwrnodau yma!!
Y pedwerydd peth rwyf wedi ei ddysgu ydy nad ydy hi fyth yn rhy hwyr i ysgrifennu ac i wireddu eich uchelgais i fod yn awdur neu’n fardd.
Felly, os ydy geiriau yn corddi yn eich boliau ac os ydych yn awchu am ysgrifennu, beth am roi cynnig arni. Mae croeso i aelodau newydd ymuno â ni. Hyd yn oed os nad ydych wedi ysgrifennu darn cyn y cyfarfod does dim pwysau arnoch, cewch wrando ar yr aelodau eraill yn darllen a thrafod eu gwaith. Cysylltwch â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ddi-oed.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am roi’r cyfle i’r Grŵp Ysgrifennu gyfarfod yn eu Canolfan godidog. Mawr yw fy nyled i’r Ganolfan dros y blynyddoedd.
Os hoffech chi ymuno â’r Clwb, cysylltwch â ni am sgwrs: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811