Gwobr Esyllt 2018-20 – Bwrsari ar gyfer Storiwraig: Ar agor i ymgeiswyr
Mer 4 Ebrill 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae Chwedl, rhwydwaith storiwragedd o Gymru,  yn chwilio am chwedlwragedd dawnus ac ifainc o Gymru – ac yn eu gwahodd  i ymgeisio am  gomisiwn, er mwyn creu darn newydd o chwedleua perfformiadwy.

Creuwyd y comisiwn yn 2016 er cof am Esyllt Harker, un o chwedlwragedd blaengar Cymru, a fu farw yn 2014, a chwaraeodd rôl unigryw a phwysig yn nghelf llafar Cymru.

Bydd y comiswn yn cefnogi datblygiad storiwraig ifanc, sydd wedi cael ei geni yng Nghymru, neu sydd yn byw neu’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Rhaid bod yn 35 oed neu iau, yn berson sydd yn chwedleua yn Gymraeg a’r Saesneg, gan ddefnyddio caneuon a cherddoriaeth yn ogystal â’r gair llafar.

Cefnogir y chwedlwraig lwyddiannus i greu perfformiad chwedleua newydd, fydd yn cael ei berfformio yn Ngŵyl Beyond the Border 2020.

 

Sut i ymgeisio:

Danfonwch y wybodaeth canlynol i

fionastory3@gmail.com

neu i:

Comisiwn Esyllt Harker, c/o Ty Cynnes, Carrog, Corwen LL21 9LA

 

– Llythyr sy’n cynnwys eich cynnig ar gyfer y gwaith newydd yr hoffech ei greu

– CV yn cynnwys enwau dau ganolwr.

– Unrhyw wybodaeth perthnasol a chefnogol sydd yn dangos eich gwaith fel chwedlwraig (ee, fidio, ffotograffiaeth, rhaglenni, adolygiadau, adborth gan gynulleidfeydd ayyb)

 

Rhaid derbyn ceisiadau erbyn y 10fed o Fai.

Dewisir yr ennillwraig gan banel o chwedlwragedd a cherddoresau gwerin blaengar, oedd yn adnabod Esyllt Harker yn dda ac yn gydweithio  yn agos gyda hi.

Cyhoeddir y canlyniad yn ystod Gwyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border 2018 yng Nghastell Sain Dunwyd, Bro Morgannwg, 9-10 Mehefin