Roedd y cyn Brif Weinidog David Lloyd George yn gyfarwydd â Thŷ Newydd ers ei blentyndod yn Llanystumdwy. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, mae ffilm Pathé yn ei ddangos yn rhodio’r gerddi yn ei 70au.
Â’i iechyd yn gwanhau, prynodd Lloyd George y tŷ o’r diwedd yn 1942. Mae’r tŷ oddeutu milltir i lawr y lôn o Brynawelon, cartref y teulu yng Nghricieth, lle bu’n byw gyda’i wraig gyntaf, Margaret a’u plant. Roedd bron yn sicr yn dychwelyd i’w fro i fyw dyddiau olaf ei oes. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o adnewyddu a pharatoi’r tŷ i ail wraig Lloyd George, Frances. Ond byth yn un i eistedd ar gefn y ceffyl, roedd yntau’n cadw llygad barcud ar y datblygiadau. Daeth Frances a’r pensaer enwog Clough Williams-Ellis i gynllunio a gweithio ar yr adeilad, a bu’n gweithio o amgylch gwaharddiadau llym iawn y Swyddfa Ryfel ar waith adeiladu mewn cartrefi oherwydd prinder deunyddiau.
Ychwanegwyd ffenestri dormer, ynghyd â’r addurn pren eiconig ar flaen y ffenestr flaen dop, a’r portico Sioraidd a gafwyd ei achub o gyrchoedd awyr Llundain. Adferwyd y waliau allanol a’u gwyngalchu, gwnaed y grisiau yn nodwedd fwy mawreddog ac ychwanegu nenfwd cromennog, ac adnewyddwyd y tŷ gyda simneiau wedi eu codi i’r entrychion. Moderneiddiwyd y tŷ drwy osod ystafelloedd ymolchi, Aga a system wresogi ganolog. Daeth y llyfrgell yn ganolbwynt i’r tŷ gyda’i nenfwd grom, siandelïers a ffenestr fwa hanner cylch.
Llwyddodd Williams-Ellis i greu tŷ oedd yn adlewyrchu cymeriad mympwyol a gwrthgyferbyniol Lloyd George. Yn ddramatig ac yn ymfflamychol, ond eto’n heddychlon a chynnil – mae’r ystafelloedd yn olau ac yn ysgafn ac yn berffaith i fyfyrio’n dawel, ond â’r pŵer a’r urddas hwnnw hefyd sy’n adlewyrchu bywyd wedi ei fyw i’r eithaf. Fel gŵr yn hwyrddydd ei oes fe fyddai Tŷ Newydd wedi darparu awyrgylch gysurus i dawelu’r meddwl.
Ym mis Medi 1944, symudodd Lloyd George i Dŷ Newydd yn barhaol. Ac yno fin nos ar y 18fed o Ragfyr y cyrhaeddodd negesydd o’r Llynges Frenhinol â neges gan y Prif Weinidog Winston Churchill. Roedd yn cynnig iarllaeth i Lloyd George gyda Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Penderfynodd Lloyd George ystyried y mater dros nos, ac yntau’n ymladd â’i ddaliadau sosialaidd. Yn y bore, derbyniodd yr anrhydedd, yn gobeithio cael defnyddio’r cyfle i helpu gyda thrafodaethau heddwch yr Ail Ryfel Byd, ond eto’n rhy wan i ymladd etholiad cyffredinol arall.
Ond ni chafodd Lloyd George erioed y cyfle i gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bu farw yn heddychlon ar 26 Mawrth 1945 yn y llyfrgell yn Nhŷ Newydd, ar ôl gofyn i’w wely gael ei symud yno fel y gallai weld Bae Ceredigion. Cafwyd ei gladdu hanner milltir i ffwrdd ar lannau’r Afon Dwyfor. Dim ond carreg fawr oedd yn nodi ei fedd i ddechrau, cyn i gofeb o gerrig o ddyluniad Clough Williams-Ellis gael ei adeiladu o’i gwmpas.
Mae Tŷ Newydd yn parhau i atgoffa rhywun o Lloyd George a Williams-Ellis. Mae’n llecyn llawn hanes, ond hefyd yn fan lle mae creadigrwydd yn ffynnu ac yn blodeuo – yn union fel y byddai’r ddau wedi ei ddymuno.