Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n rhan o’rcwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrîn hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae’n ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth.
Cliciwch yma i bori drwy holl gyrsiau ac encilion 2025.