Rhwng pobi bisgedi blasus a pharatoi llond gwlad o fara cartref mae gan Tony, cogydd Tŷ Newydd, storfa anferth o ryseitiau arbennig. Rydym wedi gofyn iddo rannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni. Bydd rysáit y mis hwn, a holl ryseitiau’r dyfodol, ar gael ar ein blog. Bon appétit!
Siytni Nionyn Coch
Cynhwysion:
6 nionyn coch mawr, wedi ei haneru a’u sleisio
3 cwpan o siwgr (siwgr gronynnog yn iawn)
3 cwpano gymysgedd finegr balsamic a finegr gwin coch (cymysgedd hanner a hanner)
2 lwy de o hadau mwstard
Halen a phupur
Dull:
Caramaleiddiwch y nionod mewn rhannau llai cyn eu rhoi mewn sosban fawr â gwaelod trwm. Ychwanegwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd â’i adael i ferwi. Trowch y gwres i lawr a gadewch iddo fudferwi tan iddo gyrraedd y pwynt setio.* Rhowch y gymysgedd mewn jariau glan a chynnes gan osod y caeadau yn syth. Gadewch iddynt oeri.
*I wneud yn siŵr bod y gymysgedd yn barod i setio, ystynwch lond lwy de o’r gymysgedd a’i osod ar soser. Rhowch y soser yn y rhewgell am 1 munud cyn ei brofi gyda’ch bys i weld os ydi’r gymysgedd yn crychu.
Mwynhewch!