Plannu Negeseuon Heddwch mewn Capsiwl Amser
yng Ngardd Tŷ Newydd, cyn gartref Prif Weinidog
y Rhyfel Byd Cyntaf, David Lloyd George
Dydd Sul 24 Medi, claddwyd capsiwl amser yng ngardd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yn ei grombil roedd llythyrau a cherddi gan aelodau Sgwad ‘Sgwennu newydd Gwynedd, wedi eu creu mewn gweithdy yn ystod y diwrnod yng nghwmni’r Prifardd Aneirin Karadog a’r awdur Sian Northey.
Bu aelodau’r Sgwad, sydd rhwng 9-11 oed, yn cyfansoddi llythyrau a cherddi i genedlaethau’r dyfodol yn sôn am bwysigrwydd heddwch yng nghyd-destun y Rhyfel Byd cyntaf, ac yn nghyd-destun materion mwy cyfoes.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gynllun ehangach Llenyddiaeth Cymru, Cadwyn Heddwch, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae 525 o blant eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun eleni drwy fwynhau gweithdai ysgrifennu creadigol, ac ymweld ag archifdai i archwilio i hanes cymeriadau lleol y Rhyfel Mawr.
Caiff y capsiwl amser ei blannu yng ngardd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, sef cartref olaf David Lloyd George a fu’n Weinidog Arfau a Rhyfel, ac yna’n Brif Weinidog ar Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Caiff Lloyd George ei adnabod fel y gŵr ddaeth a’r Rhyfel i ben, a bu’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am Gytundeb Heddwch Versaille. Ond roedd hefyd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i annog bechgyn ifainc Cymru i ymrestru â’r fyddin yn ystod blynyddoedd y rhyfel.
Un o’r eitemau a gladdwyd yn y capsiwl oedd y gerdd hyfryd hon gan y Sgwad ‘Sgwennu:
Y Sgwrs
S’mai? `Dach chi’n iawn?
Ydy eich byd wedi ei falu’n rhacs jibidêrs?
Er gwaetha’ Trump a Kim Jong-un, mae ein Gwynedd yn oesol o hardd.
Ydy’r Eisteddfod yn dal i gael ei chynnal?
Buon ni’n campio yno eleni ac yn dathlu’r Gymraeg.
Ydych chi’n dal i gofio Hedd Wyn neu ai Trump `di popeth erbyn hyn?
Ar ôl i bobl farw ydych chi’n dal i deimlo’n arw?
Sut weithiodd Brexit allan i chi? Ydy Cymru’n rhydd?
Sut mae Cymru’n edrych?
Gwelwn ni flodau hardd, caeau a natur heb ei ddifetha gan ddyn.
Oes `na bobol yn byw yn y gofod?
Mae ein traed ni’n dal ar y ddaear.
Ydy Pen Llŷn yn dal ei dir rhag y môr?
Heddiw mae’n llawn twristiaid ac yn lle drud i fyw.
Ydych chi’n dal i sgwennu?
Mae hynny’n gwneud i ni gyd wenu.
Ydy mathemateg yn dal i fod yn ddiflas?
Mae’n well gen i syllu ar yr awyr las.
Ydy un o’ch ffrindiau’n robot?
Ydy te’n dal i ddod o’r tebot?
`Dach chi’n dal i hongian dillad i sychu dillad ar y lein?
Dwi’n hongian sana’ sydd ddim wastad mewn para’.
A fu trydydd rhyfel byd?
`Dan ni’n dal i frifo ers Hitler ac erchyllterau’r cyntaf a’r ail.
Rhyfel, rhyfel, rhyfel, `ta ydy’r byd yn dawel?
Ydych chi’n dal i ddefnyddio’r ffôn?
`Dan ni’n llenwi Snapchat, Instagram, Facebook a Twitter â Chymraeg.
Ydi hi’n dal i fwrw eira?
Ni syrthiodd pluen yma ers pedair mlynedd.
Oes `na ffasiwn beth â chloc yn eich byd
Neu ydy tywod amser wedi chwythu i ffwrdd?
Oes gynnoch chi sgwadiau sgwennu?
A ddaeth rhai ohonon ni yn gewri ein llên?
– Sgwad Sgwennu Gwynedd ac Aneirin Karadog, 24/09/2017