Mewn Cymeriad yn Nhŷ Newydd
Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn.
Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, bu Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16-25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant.
Bydd y 12 ddrama newydd yn cyflwyno hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, ac yn cael eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018. Yn ystod yr ŵyl bydd y sioeau, a fydd yn cynrychioli diwydiannau megis copr, llechi, glo, tun, haearn a gwlân, yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan.
Bydd y penwythnos yng nghwmni Anni Llŷn yn Nhŷ Newydd yn gyfle i’r awduron ddysgu mwy am y grefft o ysgrifennu ar gyfer eu cynulleidfa darged, sef plant a phobl ifanc.
Y 12 awdur yw: Gwynfor Dafydd, Iestyn Wyn, Elan Grug Muse, Sion Emyr, Sian Elin Williams, Lois Llywelyn Williams, Mared Roberts, Mirain Alaw Jones, Mari Elen Jones, Ceris Mair James, Mared Llywelyn Williams ac Arddun Rhiannon.
Edrychwn ymlaen at eu croesawu i gyd i’n tŷ mawr clyd dros y penwythnos, ac edrychwn ymlaen at weld y dramâu yn cael eu perfformio maes o law.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru