Bu Daniel Morden yn adrodd straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi rhannu chwedlau ym mhedwar ban byd, o’r Arctig i’r Môr Tawel i’r Caribî. Mae’n enwog am ei gyflwyniadau gloyw o chwedlau Groeg, ac am ei angerdd wrth berfformio straeon Cymru. Mae’n awdur sawl cyfrol o straeon gwerin, gan gynnwys Dark Tales from the Woods (Gomer, 2006) a enillodd Wobr Tir na n-Og. Yn 2017 enillodd Fedal Gŵyl y Gelli am adrodd straeon.
Penwythnos Chwedleua
Hyd heddiw, mae chwedlau a straeon tylwyth teg yn parhau i ysbrydoli gwaith beirdd, awduron a sgriptwyr cyfoes. Mae’r grefft hynafol o adrodd straeon ar lafar yn rhywbeth sydd wedi siapio sut rydyn ni’n rhannu ein straeon personol bob dydd. Boed yn stori syfrdanol, hudolus, teimladwy neu ddwys, mae’r chwedlau traddodiadol sy’n rhan o’n diwylliant a’n hanes yn ein galluogi i ddeall yn well y cyflwr dynol, y byd cyfnewidiol yr ydym yn byw ynddo, a’n perthynas â byd natur.
Mae’r cwrs preswyl penwythnos hwn o adrodd straeon, a gynhelir bob blwyddyn, yn gyfle i ddechreuwyr ymgysylltu ag amrywiaeth o chwedlau ond hefyd i ddarganfod ffyrdd o’u newid a’u trosi fel bod modd i gynulleidfaoedd heddiw uniaethu â nhw. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar y grefft o adrodd straeon ar lafar, ac yn eich hannog i berfformio’ch gwaith mewn ffordd sy’n driw i chi. Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan y storïwr o fri, Jan Blake, yng Nghanolfan Felin Uchaf ar y nos Sadwrn. Erbyn diwedd y penwythnos, byddwch wedi datblygu stori fer i’w hadrodd i’ch cyd-storïwyr o fewn amgylchedd cefnogol, yn ogystal â’r wybodaeth a’r hyder i fynd â’ch chwedleua i fydoedd newydd.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £150 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 20 Ebrill 2025.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Daniel Morden
Phil Okwedy
Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria, mae Phil Okwedy yn berfformiwr sy’n adrodd straeon ac yn creu chwedlau, gan seilio hynny ar ei dreftadaeth ddeuol a diwylliannau amrywiol. Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn clybiau adrodd straeon, ac mae wedi ymddangos yn Beyond the Border a Gŵyl Adrodd Straeon Aberystwyth, ynghyd â Gŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Yn 2018, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, sef Wil & the Welsh Black Cattle (Gomer, 2018). Ynddo mae’n adrodd cyfres o straeon gwerin wedi’u seilio ar fytholeg yr hen borthmyn. Yn 2021, enillodd le ar raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru, rhaglen ddatblygu awduron, ac yn ystod 2022-23 fe fu’n teithio ei sioe chwedleua, The Gods Are All Here, o amgylch Cymru, gan blethu chwedlau, a’i stori bersonol ei hun, a daniwyd gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau a ysgrifennwyd gan ei dad yn Nigeria i’w fam yng Nghymru.
Darllenydd Gwadd
Jan Blake
Mae Jan Blake yn storïwr, yn ymgynghorydd, yn fentor ac yn siaradwr sydd wedi bod yn perfformio ledled y byd ers 1986. Wedi’i geni ym Manceinion i rieni o Jamaica, mae Jan yn arbenigo mewn straeon a chwedlau o’r Caribî, Gorllewin Affrica, Gogledd Affrica, a’r rhanbarthau Arabaidd. Gan ei bod bob amser yn arloesi o fewn y ffurf mae ganddi enw haeddiannol am adrodd straeon deinamig - gan ymddangos yn y mwyafrif o wyliau adrodd straeon rhyngwladol mawr - ac arwain gweithdai adrodd straeon ar gyfer ysgolion a phrifysgolion yn ogystal â bod yn gyfrannwr i raglenni Radio'r BBC. Gyda phresenoldeb cyfareddol ac y ddawn i ddod â straeon traddodiadol yn fyw, mae Jan wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Gan dynnu o'i gwybodaeth helaeth o straeon gwerin, mytholeg a chwedlau o Affrica a'r Caribî, mae perfformiadau Jan yn cludo gwrandawyr i diroedd pell a'r hen amser, gan eu gadael wedi'u swyno gan bŵer ei storïau. Yn 2021 lansiodd ei hysgol adrodd straeon ar-lein ei hun, Prosiect Adrodd Storïau Akua. Mae gan yr ysgol y nod o ddatblygu cenhedlaeth newydd o storïwyr rhyngwladol, sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu, ar lefel ddyfnach, â'u hymarfer adrodd straeon. Gwefan: https://www.janblakestories.co.uk