Blas ar Ysgrifennu: Ysgrifennu am fwyd, teimladau a theulu

Llu 6 Hydref 2025 - Gwe 10 Hydref 2025
Tiwtoriaid / Ella Risbridger & Kate Young
Darllenydd Gwadd / Nina Mingya Powles (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £650 - £750 y pen
Genres / aml-genreBwyd
Iaith / Saesneg

Beth fyddwn ni’n trafod pan fyddwn ni’n siarad am fwyd? Ar y cwrs preswyl hwn, byddwn yn archwilio ysgrifennu bwyd yn ei holl ffurfiau – o gofiant i lyfr ryseitiau, o farddoniaeth i ddramâu, ffuglen, nofelau graffeg a thu hwnt. Byddwn yn trafod sut mae ysgrifennu am fwyd yn fwy na dim ond ysgrifennu am fwyd, mae hefyd am fywyd â’i holl ogoniant. Nid porthiant yn unig yw bwyd, mae’n rhan bwysig o’n hunaniaeth. Yn ystod ein sesiynau, byddwn yn llunio ein straeon gan edrych ar y cymeriadau y byddwn yn coginio ar eu cyfer ac yn bwyta yn eu cwmni, beth yr ydym ni’n ei goginio a lle’r ydym ni’n siopa, a sut yr ydym yn dod at ein gilydd (neu sut ein bod ar wahân) wrth y bwrdd bwyd. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn llyfr coginio traddodiadol a arweinir gan ryseitiau, neu rywbeth mwy arbrofol, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddarganfod sut i adrodd y straeon hynny.

Fel awduron sydd  wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith hunangofiannol a ffuglennol, a fel cyd-olygyddion blodeugerdd o ysgrifennu am fwyd sydd ar y gweill, bydd Ella a Kate yn dod â’u profiad, eu gofal a’u hangerdd dros waith newydd, cyffrous a chreadigol. Yr oll fydd ei angen arnoch yw ambell gynhwysyn hanfodol: eich straeon, eich ryseitiau a’ch atgofion. Yr hyn rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ei ganfod ar y cwrs hwn yw gwaith ysgrifennu sy’n codi blys, a dealltwriaeth a gwell gwerthfawrogiad o holl ystod blasau amrywiol bywyd. Ysgrifennwn! Bwytawn!

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 6 Awst 2025.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/

Tiwtoriaid

Ella Risbridger

Mae Ella Risbridger yn awdur ac yn olygydd. Roedd ei llyfr cyntaf poblogaidd, Midnight Chicken (& Other Recipes Worth Living For) (Bloomsbury Publishing, 2019), yn Llyfr y Flwyddyn gan  The Sunday Times, ac enillodd Wobr Llyfr Coginio y Flwyddyn y Guild of Food. Mae ei llyfr coginio diweddaraf, The Year of Miracles (recipes about love + grief + growing things) (Bloomsbury Publishing, 2022), wedi cyrraedd rhestr hir Gwobrau Andre Simon, yn Llyfr Gorau Waterstones 2022; a chafodd ganmoliaeth gan Nigella Lawson, Nigel Slater, Diana Henry, a llawer mwy. Mae’r llyfr wedi’i osod yn rhannol (drwy gyd-ddigwyddiad hyfryd!) yng Nghricieth, y dref agosaf at Dŷ Newydd. Mae hi hefyd yn ysgrifennu llyfrau plant; blodeugerddi barddoniaeth; a newyddiaduraeth, gan gynnwys ar gyfer The Observer, The Financial Times, a Vogue. Mae ei llyfrau wedi'u cyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys Rwsieg a Tsieinëeg. Mae hi'n byw yn Llundain gyda miloedd o lyfrau ac un gath. 

 

Kate Young

Mae Kate Young yn awdur ac yn gogyddes. Mae ei llyfrau coginio arobryn Little Library (The Little Library Cookbook) (Head of Zeus, 2017), The Little Library Year (Anima, 2019), The Little Library Christmas (Anima, 2020), a The Little Library Parties (Apollo, 2022) yn cynnwys bwyd wedi'i ysbrydoli gan ei hoff weithiau llenyddol. Gwerthodd ei nofel gyntaf Experienced, “romcom” cwiar a osodwyd ym Mryste, mewn arwerthiant saith ffordd a bydd yn cael ei chyhoeddi gan Fourth Estate yn 2024. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys The Guardian, a The Times; yn cyfrannu at gylchgronau bwyd fel Waitrose Magazine, Delicious a Sainsbury’s Magazine; ac mae wedi cynghori ar erthyglau nodwedd ar gyfer  The Financial Times, a The Daily Telegraph. Ar ôl plentyndod heulog yn Awstralia a dreuliodd dan do yn darllen llyfrau, symudodd i Lundain, oedd yn ei siwtio’n llawer gwell. Mae hi bellach yn byw yng nghefn gwlad Lloegr. 

Darllenydd Gwadd

Nina Mingya Powles (Digidol)

Awdur a bardd o Seland Newydd yw Nina Mingya Powles, sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Mae hi'n awdur nifer o lyfrau barddoniaeth a ffeithiol greadigol gan gynnwys Slipstitch (Guillemot Press, 2024), Magnolia 木蘭 (Nine Arches, 2020), Small Bodies of Water (Canongate, 2021) a Tiny Moons: A Year of Eating in Shanghai (The Emma Press, 2020). Mae hi'n ysgrifennu substack misol ar fwyd a chof o'r enw Crispy Noodles.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811