Yma yn Nhŷ Newydd, rydym yn cynnig cogydd preswyl fel rhan o bob cwrs. Golygai hyn nad oes angen i chi boeni am goginio fel y cyfryw, ond mae pob croeso i chi helpu Tony, ein cogydd, yn y gegin pe dymunwch wneud hynny. Mae enghraifft o fwydlen ar gyfer cwrs wythnos ar gael isod, ond bydd hyn yn amrywio o dro i dro yn ddibynnol ar anghenion pob grŵp ac argaeledd bwyd tymhorol ac ati. I weld ryseitiau Tony, ewch draw i’n tudalen Blog.
Wedi i chi archebu lle ar gwrs, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni o flaen llaw am unrhyw ofynion dietegol neu alergeddau. Disgwylir i westeion wirfoddoli i helpu gyda gosod y bwrdd, golchi llestri a rhoi’r bwyd i gadw. Ar gyfer cyrsiau wythnos o hyd, mae hyn fel arfer yn golygu cofrestru ar gyfer un diwrnod yn unig. Weithiau, os yw’r grŵp yn llai, efallai y bydd angen cofrestru hyd at ddau ddiwrnod.
Rydym yn ymwybodol na fydd y tasgau hyn yn hygyrch i bawb, oherwydd anabledd corfforol a/neu anweledig; salwch a chyflyrau iechyd hirdymor, a sawl reswm arall. O dan yr amgylchiadau hynny, gallwn addasu’r tasgau i weddu’ch anghenion, neu os oes angen, gallwch gael eich esgusodi o’r dyletswyddau hyn. Os hoffech siarad am hyn cyn i chi gyrraedd, cysylltwch â’n tîm, neu fel arall, dewch i siarad â ni unwaith y byddwch yma yn Nhŷ Newydd.
Noson Gyntaf
Prif gwrs
Spaghetti Bolognese (fersiwn cig eidion a fersiwn vegan) hefo bara Focaccia cartref a salad
Pwdin
Crymbl ffrwythau gyda chrwst ceirch a sinsir wedi ei weini hefo hufen (hufen vegan ar gael)
Gweddill yr wythnos
Brecwast
Cereals, Bara, Ffrwythau, Iogwrt, Wyau
Cinio
Cawl cartref a bara cartref, a salad oer
Falafels cartref, a salad oer
Tatws trwy’i crwyn
Quiche
Salad cig oer
Swper
Prif Gwrs
Cyri Thai tatws melys wedi ei weini hefo reis a bara cartref
Plat Selsig (Vegan) wedi’I weini â thatws rhost, llysiau a grefi nionyn
Lasagne cartref
Risotto
Pei Caws a Thatws
Pei Pysgod
Pwdinnau
Bwrdd Caws (caws vegan ar gael hefyd) hefo crackers a grawnwin
Brownies Siocled
Mefus a hufen
Pwdin Bara Menyn
Bydd Tony hefyd yn paratoi bisgedi a chacennau cartref pob dydd.
Bydd yna ffrwythau ar gael o hyd, a digon o de a choffi a diodydd oer unrhyw bryd.