Yn 2016, derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gynnal cynllun creadigol Cadwyn Heddwch i astudio a choffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Penllanw’r cynllun yw’r arddangosfa arbennig hon o waith plant 21 ysgol gynradd yng Ngwynedd. Gweinyddwyd y cynllun o Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Rhwng Rhagfyr 2016 a Gorffennaf 2017, bu’r tri awdur Gwion Hallam, Sian Northey a Manon Steffan Ros yn ymweld â’r ysgolion, gan arwain gwaith ymchwil ar y cyd â’r plant i gymeriadau lleol a chwaraeodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn nyrsus, yn aelodau o’r teulu a adawyd ar ôl, yn filwyr, ac yn wrthwynebwyr cydwybodol. Yn ogystal â gweithdai yn y dosbarth, trefnwyd ymweliad i bob ysgol â lleoliadau amrywiol yn cynnwys archifdai Dolgellau a Chaernarfon, Plas Tan y Bwlch, ac yr Ysgwrn.
Bu’r plant yn dysgu sgiliau gwerthfawr am sut i ddefnyddio adnoddau megis llyfrau hanes a chofnodion manwl yr archifdai i wneud gwaith ymchwil. A daeth ymwelwyr draw i ambell ysgol i sôn am hanes eu teuluoedd. Cafodd y plant ddysgu mwy am dreftadaeth eu hardal, a chael cyfle i ddysgu am bobl o gig a gwaed a ddioddefodd oherwydd erchyllterau’r Rhyfel Mawr.
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd: Ysgol Gwaun Gynfi, Ysgol Talysarn, Ysgol Penisarwaun , Ysgol Bro Lleu, Ysgol y Gorlan, Ysgol Chwilog, Ysgol Llangybi, Ysgol Abererch, Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Dolgellau, Ysgolion Dalgylch Dolgellau (Brithdir, Rhydymain, Dinas Mawddwy, Llanelltyd, Friog a’r Ganllwyd) Ysgol Bro Tegid, Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Trawsfynydd.
Hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch i’r canlynol am eu cefnogaeth a’u cymorth i gynnal Prosiect Cadwyn Heddwch: Yr ysgolion a’r awduron, John Dilwyn Williams am ei gyngor gwerthfawr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru Dros Heddwch, Casgliad y Werin, Staff Archifdai Cyngor Gwynedd, Yr Ysgwrn, a Phlas Tan y Bwlch.