Mae Barddas wedi cyhoeddi mai Morgan Owen yw’r bardd sydd wedi cael ei ddewis eleni i dderbyn nawdd o Gronfa Gerallt i fynychu Cwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Ebrill.
Pa ffordd well o ddysgu mwy am y bardd o Ferthyr na thrwy ddirgel-gwestiynau ein holiadur pum munud…?
- Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?
Dyma fydd yr ail dro i mi ymweld â Thŷ Newydd; bûm yno fis Rhagfyr y llynedd, ac fe’m hudwyd yn gyfan gwbl gan y lle a’r cwmni. Cyffrous i ddychwelyd felly!
- Oes gennyt ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu, neu i ganfod yr awen?
Af am dro os ydw i am feddwl neu gael hyd i ysbrydoliaeth – yn ddelfrydol ar lan y môr, mewn coedwig fras, neu yn y bryniau, ond mae strydoedd y ddinas hefyd yn gwneud y tro. O ran y weithred o sgwennu, yr unig amod yw bod y lleoliad yn weddol dawel.
- Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Nid fel arfer, ond rwy’n ymgadw rhag cyfnodau o beidio â sgwennu. Yr hiraf gallaf fynd heb sgwennu yw rhyw dridiau nes fy mod yn dechrau aflonyddu. Mae ysgrifennu’n rhoi mwynhad ond hefyd deimlad o bwrpas imi – mae’n cyfeirio fy myd.
- Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
Cwestiwn anodd iawn, am fod fy marn yn newid yn aml yn hyn o beth. Ond ar hyn o bryd, rhaid fyddai dweud Dan y Wenallt, addasiad T. James Jones o Under Milk Wood Dylan Thomas. Mae’n fy swyno’n gyson.
- Pe gallet ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
Ysgrifau gan T H Parry-Williams (ei gyfrol gyntaf o ysgrifau).
- Pe gallet ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?
T H Parry-Williams; Jorge Luis Borges; Dafydd ap Gwilym.
- Pe gallet ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?
Gwyddno Garanhir, fel y gallwn rybuddio pobl Cymru o waelod y môr pa mor wyrthiol hyfryd yw eu gwlad, ac i edrych ar ei hôl yn well (a chymryd cynhesu byd-eang o ddifri!).