Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog ar y chwith – creawdwyr podlediad Clera.
Catrin Dafydd ar y dde: syniad am westai i’r bennod nesaf, falle?
Llun gan Keith Morris ar gyfer prosiect Bx3 Llenyddiaeth Cymru ac Arad Goch 2013
Cliciwch yma i wrando ar y podlediad ar Soundcloud
Cliciwch yma i ymweld â chyfrif Twitter @PodlediadClera
Dwi wrth fy modd yn gwrando ar y radio a phodlediadau, gan ei fod yn cymryd llai o fy sylw i na’r teledu. Mi alla i goginio, clirio’r tŷ, neu adeiladu dodrefn fflatbecynnog wrth wrando, tra na fydde gwylio Pobol y Cwm a defnyddio dril ar yr un pryd yn syniad gystal. Rydym ni hyd yn oed yn rhoi Radio Cymru ymlaen yn y swyddfa rhwng 2 – 5 brynhawniau Gwener i wrando ar Tudur Owen wrth fwrw ymlaen â’n tasgau – dim problem! (gobeithio nad ydi’r bosys yn darllen…!)
Tynnu coes
Felly pan glywais fod podlediad newydd yn trin a thrafod barddoniaeth Gymraeg wedi ei greu gan ddau fardd sy’n gyfeillion da i ni yma yn Nhŷ Newydd, roedd yn rhaid gwrando, a hynny wrth garfio pwmpen yn barod at Galan Gaeaf. Efallai mai annoeth oedd hynny, gan fod y gyllell yn llithro bob hyn a hyn wrth i’r bwystfil barddol a hunan-fedyddiwyd yn Aneurig beri i mi chwerthin dros y lle. Ag Eurig wedi dod yn ail agos i Aneirin yng nghystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod y Fenni eleni, digri oedd gweld y naill yn tynnu coes y llall: Aneirin yn brolio (yn haeddianol iawn hefyd!) ei fod bellach yn Brifardd, ac Eurig yn tynnu ei goes am fod mor fostawr ei orchwest.
Pynciau Dadleuol
Fy hoff ran o’r podlediad oedd eitem Pyncio, sef bocs sebon mewn gwirionedd – a dadl megis cystadleuaeth siarad cyhoeddus y Ffermwyr Ifainc. Y pwnc llosg y tro hwn oedd Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y drafodaeth rhwng y ddau frwdfrydfardd oedd a ddylid diwygio’r system ymgeisio. Cafwyd dyfyniad gan Alan Llwyd (“Yr Alanrwydd” yng ngeiriau Aneirin) oedd yn dweud na ymgeisiodd ef yn yr un cystadleuaeth yr Eisteddfod ers llwyddo i gael cyntaf, ail, a thrydydd yng nghystadleuaeth yr Englyn yn 1977. Dipyn o gamp, ac yn sicr lle da i roi’r gorau iddi efallai. Ond soniodd Alan Llwyd hefyd mai dyna’r flwyddyn olaf cyn i ffi cystadlu ddod yn rhan o’r drefn.
Does gen i yn bersonol ddim problem gyda ffi ymgeisio fechan, mae’n talu am y costau gweinyddol, ac yn atal rhywun rhag gyrru cannoedd o englynion maent wedi eu canfod mewn drôr draw i dagu’r system. Ond cododd y ddau ddarlledydd bynciau difyr ynglŷn â’r system o orfod yrru fersiwn brint o’r ymgais draw at Swyddfa’r Eisteddfod mewn amlen, sydd yn cynnwys amlen arall o wahanol faint i gynnwys manylion cyfrin am y cystadleydd ac yn y blaen ac yn y blaen – cyn gorfod talu â siec. Fe wnaeth fy atgoffa o sgwrs hynod wych rhwng Beti George a Myfanwy Alexander ar y radio, lle’r oedd Myfanwy yn dweud hanes digri iawn amdani yn cael tro trwstan wrth geisio gyrru nofel i gystadleuaeth Daniel Owen mewn amser. Soniwyd ar y podlediad fod Eisteddfod yr Urdd bellach yn derbyn ymgeisiadau dros ebost – syniad gwych. Dylid hefyd galluogi ymgeiswyr i dalu dros PayPal hefyd efallai, i annog mwy o ymgeiswyr?
Gwesteion a’r Wers Gynghanedd
Cafwyd dau o gwesteion, sef Osian Rhys Jones yn darllen cerdd, a Ceri Wyn Jones yn sôn am Ŵyl y Cynhaeaf. Mwy o hyn plîs! A beth am gerddorion gwadd, falle? Slot am eiriau caneuon, a chân fach?
Cafwyd hefyd gwers gynganeddu fer. Mae’n anodd iawn dysgu rhywbeth heb fwrdd gwyn o’ch blaen i ddangos geiriau, ac wn i ddim a ddysgodd unrhyw un ddim o be ddywedwyd – ond dyma un o’r darnau doniolaf y podlediad (yn fwriadol neu beidio), a fydden i ddim am golli’r eitem o’r herwydd. Tybed oes modd cyfuno’r wers dros y radio gydag adnoddau ar y we? Neu falle cael y cynganeddwr cudd na wn pwy ydyw sy’n arwain gwersi cynganeddu ar Twitter @cynganeddu i ddarparu cymorth?
Y nesaf, plîs!
Mi nes i fwynhau yn arw, ond tybed yw 50 munud ychydig yn rhy hir i’n amynedd byr ni’r dyddiau yma? Beth bynnag am hynny, edrychaf ymlaen at y bennod nesaf – a dewch draw atom i Dŷ Newydd ar benwythnos 17 – 19 Chwefror ar gyfer yr Ŵyl Farddoniaeth. Bydd croeso mawr i chi a’ch gwrandawyr.